Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Chwefror 2017
Amser: 09.18 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3832
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Meilyr Rowlands, Estyn Claire Morgan, Estyn Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn Tim Pratt, ASCL Maureen Harris, Association of School and College Leaders (Cymru) Rob Williams, NAHT |
Staff y Pwyllgor: |
Jon Antoniazzi (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 750KB) Gweld fel HTML (343KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. O dan Reol Sefydlog
17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn Llywydd Anrhydeddus
Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) ac yn
Aelod o Gorff Llywodraethu. Datganodd Hefin Davies AC ei fod yn
aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bu'r Pwyllgor yn holi Estyn yn fanwl am ei Adroddiad Blynyddol. Cytunwyd i ddarparu'r canlynol:
Nodyn yn egluro'r data ar gyfran yr ysgolion â gweithgarwch dilynol;
Nodyn ar ysgolion bro gan gynnwys enghreifftiau o arfer da o beth sy'n gwneud ysgol fro dda.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (CCAUC) a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)).
Nodwyd y papurau
Papur i'w nodi 6 – Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn amlygu pryderon gydag amserlen cyhoeddi'r Canllaw Gofal Iechyd diwygiedig.
Cytunwyd ar y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y llythyr. Cytunwyd i ymateb i'r ymgynghoriad.